Y Pwyllgor Cymunedau, Cydraddoldeb a Llywodraeth Leol |
Lleoliad: |
Ystafell Bwyllgora 2 - y Senedd |
|
|
||
|
|
||||
Dyddiad: |
Dydd Iau, 3 Gorffennaf 2014 |
|
|||
|
|
||||
Amser: |
09.00 - 11.00 |
|
|||
|
|
||||
Gellir gwylio’r cyfarfod ar Senedd TV yn:
|
|||||
|
|||||
|
|||||
Cofnodion Cryno: |
|||||
|
|
|
|||
Aelodau’r Cynulliad: |
|
Christine Chapman AC (Cadeirydd) Leighton Andrews AC Peter Black AC Janet Finch-Saunders AC Mike Hedges AC Mark Isherwood AC Gwyn R Price AC Jenny Rathbone AC Rhodri Glyn Thomas AC |
|||
|
|
||||
|
|
|
|||
Tystion: |
|
John Griffiths AC, Gweinidog Diwylliant a Chwaraeon Huw Brodie, Director of Strategic Planning & Equality Jon Westlake, Welsh Governmmet |
|||
|
|
||||
|
|
|
|||
Staff y Pwyllgor: |
|
Sarah Beasley (Clerc) Chloe Davies (Dirprwy Glerc) Robin Wilkinson (Ymchwilydd) |
|||
|
|
||||
Trawsgrifiad
Gweld trawsgrifiad o'r cyfarfod.
1 Cyflwyniadau, ymddiheuriadau a dirprwyon
1.1 Croesawodd y Cadeirydd yr Aelodau ac aelodau'r cyhoedd i'r cyfarfod.
2 Sesiwn graffu gyffredinol: Y Gweinidog Diwylliant a Chwaraeon
2.1 Cafodd y Pwyllgor dystiolaeth gan John Griffiths AC, y Gweinidog Diwylliant a Chwaraeon, a'i swyddogion.
2.2 Yn ystod y sesiwn, cytunodd y Gweinidog a'i swyddogion i'r canlynol:
darparu ffigurau yn dangos y cynnydd o ran nifer yr ymwelwyr â henebion Cadw ar gyfer chwarter cyntaf y flwyddyn hon;
darparu manylion am y gwaith a wnaed gan Cadw hyd yma i leihau ei ôl troed carbon a biliau cyfleustodau;
darparu copi o ymateb y Cyngor Celfyddydau i'r llythyr cylch gwaith 2014-15 gan y Gweinidog;
trafod gyda'r Gweinidog Addysg a Sgiliau bod angen i awdurdodau lleol sicrhau bod cysylltiad rhwng ysgolion a llyfrgelloedd yn eu hardaloedd, ac adrodd yn ôl i'r Pwyllgor;
darparu'r ffigurau ar gyfer buddsoddiad Llywodraeth Cymru mewn amgueddfeydd y tu allan i Gaerdydd;
rhannu manylion am yr ymchwil a wnaed mewn perthynas â risgiau iechyd ar gyfer oedolion eisteddog mewn gwahanol grwpiau economaidd-gymdeithasol;
trefnu bod y Pwyllgor yn cael nodyn ar y mater o sicrhau bod y fenter 'Llyfrau Llafar Cymru' yn hyfyw yn y dyfodol;
darparu nodyn ar effaith dod â'r Gronfa Radio Cymunedol i ben;
darparu nodyn ar effaith y gostyngiad yn y cyllid a ddarperir i Gyngor Llyfrau Cymru.
3 Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42 (ix) i benderfynu gwahardd y cyhoedd o weddill y cyfarfod ac o'r cyfarfod ar 9 Gorffennaf 2014
3.1 Derbyniodd y Pwyllgor y Cynnig.
4 Sesiwn graffu gyffredinol: Y Gweinidog Diwylliant a Chwaraeon - trafod y dystiolaeth
4.1 Trafododd y Pwyllgor y dystiolaeth a gafwyd gan John Griffiths AC, y Gweinidog Diwylliant a Chwaraeon, a'i swyddogion.
5 Trafod cwmpas gwaith craffu Cyfnod 1 Bil Cam-drin Domestig, Trais ar Sail Rhywedd a Thrais Rhywiol (Cymru)
5.1 Trafododd y Pwyllgor cwmpas ei waith a'i ddull gweithredu mewn perthynas â chraffu ar y Bil Cam-drin Domestig, Trais ar Sail Rhywedd a Thrais Rhywiol (Cymru) yng Nghyfnod 1
6 Trafod y flaenraglen waith a sut i ymdrin â'r gwaith craffu ar y Gyllideb Ddrafft.
6.1 Trafododd y Pwyllgor y flaenraglen waith a sut i ymdrin â'r gwaith craffu ar y Gyllideb Ddrafft